Daniel 8

Gweledigaeth yr hwrdd a'r bwch gafr

1
8:1 Yma mae'r iaith wreiddiol yn newid yn ôl i'r Hebraeg.
Yn ystod trydedd flwyddyn teyrnasiad Belshasar,
8:1 trydedd flwyddyn teyrnasiad Belshasar 551 CC, dwy flynedd ar ôl y weledigaeth gyntaf (gw. 7:1). Roedd Daniel tua 69 mlwydd oed ar y pryd.
ces i, Daniel, weledigaeth arall. Roedd hon yn dilyn yr un roeddwn wedi ei chael o'r blaen.
2Y tro hwn gwelais fy hun yn Shwshan,
8:2 Shwshan Tua 200 milltir i'r dwyrain o Babilon.
y gaer sydd yn nhalaith Elam. Roeddwn yn sefyll wrth ymyl Camlas Wlai.
3A gwelais hwrdd
8:3 hwrdd Ymerodraeth Media-Persia – gw. adn 20.
yn sefyll wrth ymyl y gamlas. Roedd gan yr hwrdd ddau gorn hir, ond roedd un corn yn hirach na'r llall, er ei fod wedi dechrau tyfu ar ôl y llall.
4Roedd yr hwrdd yn rhuthro, ac yn ymosod ar bopeth i'r gorllewin, gogledd a de. Doedd dim un anifail arall yn gallu sefyll yn ei erbyn na'i rwystro. Roedd yn gwneud fel y mynnai, ac yn brolio'i hun.

5Tra roeddwn i'n edrych ar hyn, dyma fwch gafr
8:5 fwch gafr Groeg – gw. adn.21
yn dod dros y tir o gyfeiriad y gorllewin. Roedd yn symud mor gyflym doedd ei draed ddim yn cyffwrdd y llawr. Roedd gan y bwch un corn amlwg
8:5 corn amlwg Alecsander Fawr mae'n debyg. Daeth Alecsander yn frenin Macedonia yn 336 CC Erbyn 331 CC roedd wedi concro Ymerodraeth Persia.
ar ganol ei dalcen.
6Daeth at yr hwrdd gyda'r ddau gorn roeddwn i wedi ei weld wrth y gamlas, a rhuthro'n ffyrnig yn ei erbyn. 7Roeddwn yn edrych arno'n ymosod yn wyllt ar yr hwrdd, a'i daro mor galed nes iddo dorri dau gorn yr hwrdd. Doedd gan yr hwrdd ddim gobaith! Dyma'r bwch gafr yn bwrw'r hwrdd i lawr, a'i sathru dan draed. Doedd neb yn gallu achub yr hwrdd o'i afael.
8:6-7 daeth at … o'i afael Rhwng 334 a 331 CC enillodd Alecsander Fawr sawl buddugoliaeth yn erbyn Dareius III, a lledodd ei Ymerodraeth o wlad Groeg i'r India.
8Tyfodd y bwch gafr mor fawr nes ei fod yn brolio fwy fyth. Ond pan oedd ar ei gryfaf, dyma ei gorn anferth yn cael ei dorri. Yn ei le tyfodd pedwar corn mawr
8:8 pedwar corn mawr Y pedwar cadfridog y rhannwyd teyrnas Alecsander Fawr rhyngddyn nhw mae'n debyg – Cassander (Macedonia a Groeg), Lysimachus (Thrace a rhannau o Asia Leiaf), Seleucus (Syria a thiroedd tua'r dwyrain), a Ptolemi (Yr Aifft). Bu farw Alecsander Fawr yn 323 CC, ac ar ôl blynyddoedd o ffraeo rhwng cadfridogion y fyddin, rhannodd yr Ymerodraeth yn bedair teyrnas yn 301 CC
oedd yn pwyntio, un i bob cyfeiriad.

9Ond yna, allan o un ohonyn nhw, dyma gorn bach
8:9 hwrdd Antiochus IV Epiphanes mae'n debyg. Roedd yn teyrnasu o tua 175 i 164 CC ac yn hynod o greulon tuag at yr Iddewon.
arall yn codi. Roedd yn fach i ddechrau, ond tyfodd yn fawr iawn, ac ymestyn i gyfeiriad y de a'r dwyrain
8:9 y de a'r dwyrain Ymgyrchodd Antiochus yn erbyn yr Aifft yn y de (1 Macabeaid 1:16-20) a'r Parthiaid i'r dwyrain (1 Macabeaid 3:27-37; 6:1-4)
, ac i gyfeiriad y Wlad Hardd.
8:9 Y Wlad Hardd Disgrifiad o wlad Israel. (gw. Jeremeia 3:19; Eseciel 20:6,15)
10Tyfodd mor dal nes iddo gyrraedd y fyddin nefol, a bwrw rhai ohonyn nhw (sef y sêr) i lawr, a'i sathru nhw dan draed. l 11Ond aeth mor bell â herio Tywysog y fyddin nefol. Stopiodd yr aberthu dyddiol, a dinistrio ei deml. 12Roedd ei fyddin yn sefyll yn erbyn yr aberthu dyddiol fel gweithred o wrthryfel, a disodli'r gwir.
8:12 gwir Cyfeiriad at lyfrau'r Gyfraith Iddewig, y Torâ, mae'n debyg. gw. 1 Macabeaid 1:56
Roedd yn llwyddo i wneud beth bynnag oedd e eisiau.

13Wedyn dyma fi'n clywed bod sanctaidd yn siarad, ac un sanctaidd arall yn gofyn iddo. “Am faint mwy mae hyn yn mynd i fynd ymlaen – y gwrthryfel yma sy'n stopio'r aberthu dyddiol, a'r deml a'r fyddin yn cael eu sathru dan draed?” 14Atebodd y llall, “Am ddwy fil tri chant bore a hwyr. Wedyn bydd y deml yn cael ei gwneud yn iawn eto.”
8:14 y deml … iawn eto Cyfeiriad at Ailgysegru'r deml mae'n debyg. Digwyddodd hyn ar Ragfyr 25, 165 CC Mae un o wyliau'r Iddewon, Gŵyl y Cysegriad ( Chanwca ), yn dathlu'r digwyddiad.

Yr angel Gabriel yn esbonio'r weledigaeth

15Roeddwn i, Daniel, yn edrych ar hyn i gyd, ac yn ceisio gwneud sens o'r cwbl. Yna'n sydyn, roedd un oedd yn edrych fel person dynol yn sefyll o'm blaen i. 16A dyma fi'n clywed llais rhywun yn galw o gyfeiriad Camlas Wlai, “Gabriel, esbonia i'r dyn yma beth sy'n digwydd.” 17Felly dyma fe'n dod ata i. Roedd gen i ofn am fy mywyd, a dyma fi'n disgyn ar fy ngwyneb ar lawr o'i flaen. A dyma fe'n dweud, “Ddyn, rhaid i ti ddeall mai gweledigaeth am y diwedd ydy hon.” 18Wrth iddo ddweud hyn dyma fi'n llewygu. Roeddwn i'n fflat ar fy ngwyneb ar lawr. Ond dyma fe'n cyffwrdd fi, a'm codi ar fy nhraed.

19Yna dwedodd, “Dw i'n mynd i ddweud wrthot ti beth fydd yn digwydd ar ddiwedd y cyfnod o ddigofaint. Gweledigaeth am y diwedd ydy hon. 20Mae'r hwrdd welaist ti, gyda dau gorn, yn cynrychioli brenhinoedd Media a Persia. 21Y bwch gafr welaist ti ydy brenin y Groegiaid, a'r corn mawr ar ganol ei dalcen ydy'r brenin cyntaf. 22Mae'r pedwar corn ddaeth yn lle'r un gafodd ei dorri, yn dangos y bydd Ymerodraeth Groeg yn rhannu'n bedair teyrnas. Ond fydd dim un ohonyn nhw mor gryf â'r gyntaf.

23Pan fydd y teyrnasoedd yma ar fin dod i ben,
a'i gwrthryfel ar ei waethaf,
bydd brenin caled, twyllodrus yn codi.
24Bydd yn troi'n bwerus iawn
(ond ddim drwy ei nerth ei hun).
Bydd yn achosi'r dinistr mwyaf ofnadwy.
Bydd yn llwyddo i wneud beth bynnag mae e eisiau.
Bydd yn dinistrio'r bobl mae'r angylion yn eu hamddiffyn.
25Bydd yn llwyddo i dwyllo llawer drwy ei glyfrwch,
ac yn brolio ei fawredd ei hun.
Bydd yn dinistrio llawer o bobl sy'n meddwl eu bod yn saff.
8:25 Bydd yn dinistrio … saff Cyfeiriad, falle, at yr ymosodiad annisgwyl ar Jerwsalem sy'n cael ei ddisgrifio yn 1 Macabeaid 1: 29-30

Bydd yn herio'r un sy'n Dywysog ar dywysogion,
ond yna'n sydyn bydd yn cael ei dorri gan law anweledig p.

26“Mae'r weledigaeth am y dwy fil tri chant bore a hwyr yn wir, ond i'w selio a'i chadw o'r golwg. Mae'n sôn am amser yn y dyfodol pell.”

27Roeddwn i, Daniel, yn swp sâl am rai dyddiau. Ond yna, ar ôl gwella, dyma fi'n cario mlaen i weithio i'r brenin. Ond roedd y weledigaeth wedi fy syfrdanu. Doedd hi ddim yn gwneud sens i mi.

Copyright information for CYM